Gwyliau – Ysgol y Gelli

in Beirdd Bach with No Comments

Dyma waith ardderchog Plant Ysgol y Gelli yn dilyn ymweliad Bardd Plant Cymru ar ddydd Llun 22 Hydref 2012.

Y Gwyliau

Teithio’r byd ar ein gwyliau
Gweld bob math o ryfeddodau
Gweld y ser yn disgleirio arnaf
Ond oh dwi’n falch o fod adref.

Lowri Elen Bebb a Lowri Wyn Jones

 

Y Gwyliau Nadolig!!!

Mae y gwyliau wedi cyrraedd,
A phawb wedi colli mynadd,
Ddim y hir tan Nadolig llawn hwyl,
A’r Nadolig yw fy hoff ŵyl.

Thomas Murphy a Tom Kinnell

 

Haf

Mae`r haul yn  gynnes ar fy nghorff
Rwyn teimlo y gwres
Wrth edrych i fyny rwy’n gweld adar
Ac mae`r haul yn llachar.

Morgan Celt

 

Gwyliau Haf Gorau

Hwre!!!!
Mae fy mhenblwydd wedi cyrraedd,
Amser i agor yr anrheg cyntaf, SGLERFWRDD!!!!!
Parc sglefrio amdani!!!! i drio triciau
Ond yn anffodus
Ar ôl rhyw awr—roedd wedi cau
Dyna diwedd i wyliau da,
Roedd yn hwyl a sbri HA HA!!!

Tomos Ap Rhun a Morgan Jones

 

Noson Calan Gaeaf

Hwre!!! Mae ysgol wedi cau
dyma amser i fwynhau,
Cyfle da i godi braw
gweld ffrindie a chodi llaw,
Ar y stryd fel criw dychrynllyd
chwarae mig a gweiddi’n swnllyd,
Sefyll yn stond a tharo y drws
a gweiddi “ble mae’r loshin tlws?”
Agor y drws i wyneb clen
Ar noson arswydys mae’n braf geld gwen,
Gafael yn dyn ar y da-da
a throi hi am adref a dweud’ ta-ta’!!!

Alex Simmonds ac Osian Parry-Jones

 

Y Gwyliau

Ceffylau yn y cae
Ceffylau yn rhedeg ar y gwair
Screach yw ei enw o
Bob bore dwi yn ei alw fo.

Gan Kayleigh ac Arianne

 

Y Gwyliau

Ceffylau yn rhedeg yn y cae ar y gwair
Yn neidio a rhedag fel mae nhw yn ffair
Hefo ei mwng yn chwifio wrth mynd am dro
A Beuaty a fi yn llawn cyffro.

Gan Chloe Angel

 

Dolig Da

25ain o Ragfyr ydi’r diwrnod Nadolig
Cyffro a dathlu ar ddiwrnod arbennig
Pobmath o siapiau mewn papur lliwgar
Mewn pentwr dan oleuadau llachar .

gan Rhys Jones a Daniel Gove

 

Y Gwyliau Hydref

Cloch yn canu am y tro olaf
Edrych ymlaen am Calan Gaeaf
Rhedeg adref ffonio ffrindiau
“I chwarae xbox 360 ia”
Mynd allan am fwyd I ddathlu’r ŵyl
“O dyna chi syniad llawn hwyl”

Diwrnod Calan Gaeaf
O’r diwedd wedi dod
Draciwla, ysbrydion, sgerbwd a gwrachod
Yn cerdded y strydoedd yn edrych yn od
Tŷ arswyd mor ofnus achosi fi grynnu
Hel mwy o losin yw’r cais ar ol hynny
Mynd adref i gysgu ar y noson honno
A yfory caf gyfle i ymlacio

Paciais fy nillad i fynd i ty nain
Mynd i chwarae yn y cae a disgyn a disgyn lawr i’r drain
Dringo allan yn lyb socian
Rhoi dillad ar y lein a gadael i hongian
Mynd i gysgu mor gynnar a fedraf
Bore wedyn dwi’n cyraedd adref

Penwythnos olaf y gwiliau
Ffonio fy ffrindiau i fynd i dre
A pawb yn dweud “gret!”
Prynu cinio a cymud fy set
Nai fwyta fy mwyd a gynnigiai fet
Mai hwn oedd y gwyliau mwyaf gret!

Gruffudd Evans a Jac Northfield

 

Tân Gwyllt

Noson tan gwyllt llawn lliwiau
Llawer o hwyl, swn, ac tan a fflachiau
Pobol yn cynnau a chwerthun foi ffrindiau
Y babi yn crio yn ofni y synau

Ryan Evans a Ffion Lovell

 

Haf

Hwre!! Mae’r haf wedi dod,
Cael tân ydi’r nod,
A mynd i chwarae efo ffrindiau,
Ar y funud dwi yn hoffi fy ngwyliau,
Ar y ffor i dre,
Dwi yn gweld llawer lle,
A dyna ddiwedd fy ngwyliau ,
Dwi yn mynd yn ôl i ysgol i weld fy ffrindiau.

Finlay Prytherch

 

Y Gwyliau Cyffrous

Mae wsos cyffroes ar fin dod
Y nod yw peidio bwyta gormod
Dwi yn tricio a losin gyda ffrind
Yn cysgu drosodd yn mynd
Ar y ffordd i Wrexham mewn car Angen curo fy ffrind Sant Barr
Mynd yn ol i Caernarfon
Mynd i weld yr afon

Gwilym

 

Tân Gwyllt

Yng ngolau y nos roedd goleuadau yn fflachio
Wrth ymyl y coelcerth roedd pawb yn rhostio
Coch,gwyn a gwyrdd fel lliwiau Mr Urdd
Wrth weld y tan gwyllt yn ninas Caerdydd.

Elin Jones, Nel Hughes a Llio Williams

top