7 o Bethau Peryg yn Ysgol Terrig

in Bardd with No Comments

Bore ma (23/03/15) aeth y daith Glera â fi i bentre Treuddyn, ger Yr Wyddgrug ac i Ysgol Terrig, sy’n cael ei enw o’r afon leol, mae’n debyg. Wrth deithio yno, ac yn y dyddiau cyn yr ymweliad bu cerdd Twm Morys o’r daith a’r gyfrol chwedlonol Eldorado, 7 o Bethau Peryg yn Ne’r Amerig yn cylchdroi yn fy mhen, ac felly dyna bwrpas y ddwyawr o ymweliad wedi amlygu ei hunan. Rhaid oedd i ni weithio tuag at gerdd o’r enw ‘7 o Bethau Peryg yn ysgol Terrig’. Diolch i Twm Morys am yr ysbrydoliaeth ac i feirdd Terrig am greu cerdd gofiadwy y gallan nhw fod yn falch iawn ohonoi.

7 o Bethau Peryg yn Ysgol Terrig

1 ydy’r athrawon sydd yn drewi o ddoethineb
ac yn dal i wenu drwy bob trychineb

2 ydy’r llyfrau sydd yn llenwi dy ben
ac yn handi tra’n dysgu sut i wneud den

3 ydy’r plant a’u fflamau Cymraeg
sy’n llosgi’n boethach na fflamau y ddraig

4 ydy’r bechgyn, yn ôl y genethod,
sydd byth a hefyd yn pigo eu plorod!

5 ydy’r genethod, yn ôl y bechgyn,
bob un yn brydferth, prydferth fel blodyn,

6 ydy’r bwyd sy’n cael ei losgi bob dydd,
peidiwch a dweud wrth y chef ond mae’n blasu fel pridd!

7 ydy’r ymwelwyr sy’n landio â phastwn
a’n gorfodi i farddoni lawr yn y dwnjwn.

top