AMGUEDDFA A CHASTELL Y FENNI

in Uncategorized with No Comments

AMGUEDDFA A CHASTELL Y FENNI

Barddoni mewn amgueddfa…profiad arbennig iawn! Diolch byth, roedd criw Ysgol Gymraeg y Fenni wedi dod i fy helpu. Cawsom gyfle i edrych ar rai o hen bethau, yn arbennig eitemau personol dynes arbennig o’r enw Arglwyddes Llanofer oedd yn bodoli tua 200 o flynyddoedd yn ôl. Roedd hi’n cael ei hadnabod fel Gwenynen Gwent ac roedd hi’n andros o falch o’r Gymraeg ac o bopeth Cymraeg. Ac roedd hi’n gweithio’n galed i wneud yn siwr bod pobl eraill yn teimlo’r un balchder. Hi oedd yr un wnaeth ddod a’r wisg draddodiadol Gymreig at ei gilydd a’i gwneud hi’n boblogaidd. Roedd hi hefyd yn rhoi cenhinen fach oedd wedi ei gwneud o wydr a sidan i bawb oedd yn gweithio iddi. Cefais i a chriw Ysgol y Fenni gyfle i weld un o’r cenin unigryw yma. Roedd yn rhaid ysgrifennu cerdd amdani a’r genhinen fach.

 

Arglwyddes Llanofer

Wrth fy nghalon

cenhinen fregus.

Mae’n brydferth,

rwy’n perthyn.

Ysgirid sy’n gawr,

A Blorens yn breuddwydio,

Y Deri’n drwm dros y dref,

A’r Fâl yn fawreddog.

Mae cenhinen wrth galon pob un.

Gwisg garw sy’n cosi hunaniaeth.

Mae’r brethyn patrymog yn perthyn.

Pob dafad yn canu’r Delyn

o’r Fenni hyd Gymru i gyd.

Mae llais Llanofer yn suo,

yn rhuo ar hyd y stryd.

A Gwenynen Gwent yn hedfan o hyd.

 

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn mynd i Y Fenni ym mis Awst. Gobeithio y gwela i chi yna!!

top