Anni’r Chwa o Awyr Iach!

in Uncategorized with No Comments

Anni’r Chwa o Awyr Iach!


Anni’r Chwa o Awyr Iach!

Bu gweithdy ola’ Aneirin Ddydd Llun 14 Medi ond cyn iddo ddweud hwyl fawr – cafodd plant Ysgol Bro Edern a chriw rhaglen Heno y pleser o wrando ar ei gerdd gyfarch i Anni. Dyma hi….

 

Blant Cymru, mae Anni ‘ma!

Hel antur a barddplanta

bob bore yw ei bwriad,

hel paned ledled y wlad,

a’i diléit yw ei dweud-hi

yn lôn o straeon di-ri

llawn darogan, llawn dreigiau,

llawn o wên, llawen awen iau

trwy eich help. Dewch! Trochwch hi

yn eich hwyl, dewch i’w holi

yn werin eich brenhines

am gymhariaeth ffraeth a ffres,

neu odl lawn o chwedlau.

Mae ‘na iaith, sef iaith mwynhau,

eich iaith chi, a chwyth ei chwa

drwy Gymru: Mae Anni ‘ma!

 

Hoffai prosiect Bardd Plant Cymru ddiolch i Aneirin am ei holl waith, brwdfrydedd a hwyl dros y ddwy flynedd a dymuno’n dda iddo i’r dyfodol.

 

top