Ar wib i Bontrobert

in Bardd Uncategorized with No Comments

Ysgol Pontrobert

Brynhawn Gwener (17/5/15) ces groeso llawn o fwynder Maldwyn gan athrawon a disgyblion ysgol Pontrobert, nid nepell o Feifod, sef lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Roedd hi’n hyfryd clywed acenion bræf y criw, ac ro’n i wir yn teimlo yn barod am Eisteddfod gofiadwy arall eto eleni.

Diolch i’r beirdd bach am eu cyfraniad i Gerdd Fawr y Pethau Bychain. Cofiwch chithau gyfrannu i honno cyn Mai y 5ed. Mae’r manylion i’w canfod yma.

Os bydd y croeso ym mis Awst mor gynnes ac yr oedd hi b’nawn Gwener, a’r tywydd yn gynhesach fyth, bydd pobl Maldwyn yn gallu ymfalchïo unwaith yn rhagor yn eu gallu i gynnal gŵyl ei llond o amser dæ!

top