Bardd Plant Cymru yn defnyddio Trydar i lansio ei chyfrol newydd…

in Uncategorized with No Comments

Bardd Plant Cymru yn defnyddio Trydar i lansio ei chyfrol newydd…

 

 

 

Rhwng 8 a 9 o’r gloch nos Fercher 18fed o Fai, yn ystod yr Awr Gymraeg, fe wnaeth Anni Llŷn lansio ei chyfrol newydd Dim Ond Traed Brain ar gyfrif Trydar Bardd Plant Cymru (@BarddPlant).

O reidio beic i glirio stafell a phigo trwyn… ie’n wir, profiadau diniwed plant sy’n cuddio rhwng cloriau’r gyfrol hyfryd Dim ond Traed Brain, a’r rheini ar ffurf cerddi hwyliog ac ysgafn gan Anni Llŷn.

Uchod mae disgyblion o ysgolion ar draws Cymru wedi cyfrannu at fideo sydd yn cael ei rannu i ddathlu lansio’r gyfrol.

Gydag arlunwaith godidog gan y dalentog Valériane Leblond yn gefndir i’r geiriau, mae’n gyfrol hardd tu hwnt.

Dywedodd Sioned Lleinau, Uwch Olygydd Llyfrau i Blant Gwasg Gomer, ‘Dyma berl o gyfrol sy’n siŵr o swyno’r llygad a’r glust heb sôn am wneud i chi chwerthin lond eich bol!’

Hel atgofion am y profiadau a gafodd hi fel plentyn ifanc yw prif ganolbwynt Anni yn y cerddi, er enghraifft mynd am wyliau mewn carafán, cael parti pen-blwydd a bwyta sbrowts… a phwy all anghofio am y diwrnod mawr hwnnw ym mywyd pob plentyn pan fyddai’n bryd mynd i siopa am esgidiau newydd? Beth am fentro troi’r tudalennau, felly, a mwynhau gwledd o gerddi lliwgar a chyffrous sy’n siŵr o’ch hudo?

Dewch i ddweud helo wrth Anni Llŷn ar stondin Gwasg Gomer yn Eisteddfod yr Urdd, Sir y Fflint ar ddydd Mercher, 1 Mehefin am 3.30pm!

top