Beirdd Llundain

in Bardd with No Comments

Cyrhaeddais ganolfan Cymru Llundain heddi ac yn syth fe’m trawyd gan gyfoeth hanesyddol y ganolfan, a theimlo’r prysurdeb a fu o  ddeall fod y ganolfan dan ei sang yn barhaus yn y chwedegau a’r saithdegau.

Roed cwrdd â disgyblion ysgol gymraeg Llundain yn dod â’r cysylltiad cymreig â Llundain yn fyw ac yn llonni calon o glywe cymraeg ar dafodau to iau y ddinas, a hynny heb orfodaeth nac anogaeth athrawon.
Cyn dechrau barddoni,ro’n i’n awyddus i drafod hunaniaeth gyda’r digyblion, gan bod Llundai yn brofia cyffredi i bob un ohonynt, a bod ag o leiaf un rhiant yn gymro neu’n gymraes hefyd yn berthnasol i’r rhan fwyaf o’r doabarth.  Mae’n ysgol sy’n gymyageds rhyfeddol o gefndiroedd a all ond cyfoethogi profiad addysgiadol pob plentyn sydd yno.
Ro’n i’n hynod o falch o weld pob un digybl yn dangos brwdfrydedd dros greu barddoniaeth a nifer ohonyn nhw y dweud pethau mewn modd barddonol a ffraeth. Gobeithio y bydd y gwaith ar gael i’w ddangis ar y wefan hon cyn hir.
Cofion, Aneirin.
top