Beirdd Plant y Byd o Dan Un To

in Bardd with No Comments

photo-2
Ffair Llyfrau Plant Bologna oedd y lleoliad ar gyfer ail gynhadledd ryngwladol y ‘Laureates’ plant a phobol ifanc.

Mae cynhadledd i feirdd plant, awduron llawryfog i’r ieuenctid, a llysgenhadon darllen amryw wledydd yn ninas Bologna, yn yr Eidal, yn swnio fel esgus i fwyta pasta blasus yn hytrach na gwasanaethu’r cyfryw blant ac ieuenctid! Tra bod angen porthiant ar bob bod dynol, a thra ei bod yn wir fod yna basta blasus ar gael ym Mologna, roedd drifawr angen presenoldeb Cymraeg a Chymreig mewn digwyddiad lle roedd pobol o bob cornel o’r byd wedi dod ynghyd.

Tra fy mod i yno fel Bardd Plant Cymru, roedd gwlad y beirdd a’r cantorion yn gwneud argraff drwy gael dau gynrychiolydd yno. Gyda fi roedd Martin Daws, Awdur Llawryfog Plant a Phobol Ifanc Cymru, sy’n cynrychioli’r Gymru sydd heb eto ennill y Gymraeg. Dim ond un wlad arall oedd mewn sefyllfa debyg, sef y Ffindir, a ddanfonodd dau Lysgennad Darllen, sef Katarina Von Numers-Ekman sy’n cynrychioli y lleiafrif (5% o’r boblogaeth) yn y Ffindir sy’n siarad Swedeg, a Henrika Anderson sy’n cynrychioli siaradwyr Ffineg y wlad.

Efallai yn brawf o’r pwysigrwydd roedd gwledydd y byd yn ei osod ar y digwyddiad oedd fod Awstralia wedi danfon eu hawdur Llawryfog nhw (Jackie French) draw ynghyd a’i thîm. Roedd yr awdur llawryfog cyntaf o’i fath yn holl wledydd Canol a De America yno hefyd, sef Fransisco Hinojosa, yntau o Fecsico. Yn cwblhau’r 10 o ‘Laureates’ felly yr oedd Malorie Blackman sy’n cynrychioli’r Deyrnas Unedig, Eoin Colfer, awdur hynod lwyddiannus llyfrau Artemis Fowl oedd yno ar ran yr Ynys Werdd, Johana Lindback, llysgennad Darllen Sweden a Jan Paul Schutten o’r Iseldiroedd(Awdur Llawryfog i Blant ond mewn Llyfrau Ffeithiol, nid Ffuglen – annisgwyl ond diddorol fel datblygiad llawryfol).

Tra ein bod yn un o’r cyfarfodydd, a barodd 3 awr, wedi mynd i drafod pob math o agweddau ar ein swyddi cenedlaethol, y cwestiwn mwyaf a godai ei ben yw beth a gawn ni o hyn i’w lusgo yn ôl i’n gwledydd ein hunain? Tra bod yna drafod ar wneud datganiad rhyngwladol yn amddiffyn hawliau plant i ddarllen neu sefydlu rhwydwaith swyddogol i gadw cysylltiad rhwng y gwledydd, heb sicrwydd y byddai yna weithredu ar ein siarad, ymddangosai’r cwestiwn yn un anodd i’w ateb yn gadarnhaol i ddechrau. Hap a damwain oedd fod pawb namyn Fransisco yn medru’r Saesneg, ac felly roedd yr iaith honno yn cael ei thrafod fel pont bosib i’n cysylltu ni. Ond buan y daeth pwysigrwydd ein presenoldeb ni, o Gymru, i’r amlwg. Roedd codi mater yr iaith Gymraeg a’r angen felly i’w chynrychioli yn bwnc a agorodd y drafodaeth i sut mae cynrychioli lleiafrifoedd o fewn gwahanol wledydd. Drwy gyd-ddigwyddiad, roedd yr Oz Laureate cyntaf o dras Aborijini, ac mae Malorie Blackman yn genhades gref dros lais lleiafrifoedd ething y Deyrnas Unedig. Trist ar un wedd nad yw Iwerddon yn creu dwy swydd, un i’r Saesneg ac un i’r Wyddeleg, er bod trafod cael awdur Gwyddeleg i mewn i’r swydd yn y dyfodol.

Buan y sylweddolias y byddaf yn dod a chryn dipyn yn ôl i’w fwydo i weiynddwyr a phartneriaid y prosiect Bardd Plant, yn weithgareddau posib, ffyrdd amgen o ariannu, yn weledigaeth amgen o ran pa garfannau o’n hieuenctid i’w targedu, sut i gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach, a sut i sicrhau fod llais Cymru yn para yn un arloesol ar raddfa fyd-eang yn y maes hwn.

Cododd un bwysftil posib ei ben, bwystfil a fyddai falle wedi magu traed a chodi twrw yng Nghymru, boed os taw ond ar Golwg 360 oedd hynny, yn ogystal â chreu cryn dipyn o helbul yn yr dyfodol, sef y drafodaeth fer a gafwyd ar y posibilrwydd o sefydlu is-feirdd plant/awduron llawryfog i ranbarthau y Deyrnas Unedig, o dan adain y swydd y mae Malorie Blackman ynddi. Fe nodais yn go sydyn a chadarn fod gyda ni eisioes ddau Fardd Plant yng Nghymru, a bod gyda’r Iwerddon yr un math o swydd sydd bellach yn gweithio ledled Iwerddon, ac yn pontio’r hen ffiniau gwaedlyd a fu rhwng y Weriniaeth a Gogledd Iwerddon. Yn ddiweddarach, mewn sgwrs gyda Malorie Blackman, Eoin Colfer a Martin Daws, daeth hi’n amlwg fod angen creu deialog rhwng y swyddi pwysig hyn o fewn Ynysoedd Prydain. Deialog a allai ystyried referendwm diweddar yr Alban, tensiynnau Gogledd Iwerddon ac anhawsterau pobl ifanc yng Nghymru Wledig, a phobol Ifanc Llundain Aml-ddiwylliannol. Boed yn genedlaetholwr Cymreig neu yn lladmerydd i’r sefydliad Prydeinig, mae hanes yn dangos pwysigrwydd siarad yn anad dim, fel arf cymaint grymusach nac unrhyw fwled neu fur a ellir ei saethu neu ei godi.

Roedd hi’n fraint hefyd mai fi a Martin oedd yr unig Feirdd yno, a gwybod felly fod Cymru yn arwain y gad yn y ffaith fod beirdd yn chwarae rhan bwysig yn hunaniaeth ein cenedl, a datblygiad ein to iau o ran y celfyddydau. ond fe gwyd y cwestiwn a ddylsem felly fod yn creu Arlunydd Pobol Ifanc Cymru, Nofelydd Plant Cymru a Cherddor Ieuenctid i Gymru?

Roedd yno hefyd bobl o Seland Newydd a’r Alban Aelaidd a hoffent sefydlu cynlluniau tebyg i’r Bardd Plant yn eu gwledydd nhw, a’r hyn a amlygodd ei hunan yw fod angen i bob gwlad greu’r swydd ar lun sy’n gweddi i’w traddodiadau a’u pobloedd nhw, gan roi’r cyfle gorau i blant eu gwlad ffynnu, a chael gwir foddhad o’r celfyddydau. Fel y cyfarfod a barodd deirawr, a’r platiau diddiwedd o basta blasus, gallwn draethu hyd nes ddiwedd tymor y Bardd Plant Cymru nesaf am y gynhadledd hon, ond ni wnaf, gan wybod fod y dyfodol i bwy bynnag a fydd yn fy olynu yn llawn cyfleon tu hwnt o gyffrous, wrth wneud gwahaniaeth i fywydau to ifanc ein gwlad.

top