Blog Newydd!

in Bardd with No Comments

Oi oi!

Croeso mawr i flog newydd Bardd Plant Cymru! Dros y flwyddyn nesaf fe fydda’ i’n adrodd hanes pob un ymweliad gydag ysgolion ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.

Dwi eisoes wedi bod yn Fardd Plant am flwyddyn gyfan – ond eleni am y tro cyntaf dwi’n cael bod yn Fardd Plant am ddwy flynedd, yn lle un. Bydd y Bardd Plant nesaf yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Benfro ym mis Mai 2013. Ond tan hynny, fe fydda’ i’n teithio’r wlad yn creu cerddi newydd sbon gyda beirdd bach gwych y genedl.

Fe fydda’ i’n rhoi pob math o gerddi a lluniau ar y blog dros y misoedd nesaf. Os hoffech chi roi cerdd neu lun neu unrhyw beth barddonol dan haul ar y blog – anfonwch e draw!

Ond yn y cyfamser, dyma gerdd newydd ichi am un o fy hoff fwydydd i – omled!

20121031-170012.jpg

Sut i Goginio’r Wawr

A hoffet ti wybod sut i goginio’r wawr?
Rhaid hollti dau wy mewn i fowlen fawr –
Gofala nad aiff ddim o’r cynnwys ar lawr!

Rho’r melyn i mewn gyda’r gwyn – dim plisg –
A chlatshia di’r cyfan yn gyflym ’da wisg
Cyn ei arllwys yn araf i’r ffreipan fel disg,

Un ddisg fawr, fawr, berffaith – bydd yn edrych fel les,
Yn welw a thenau, cyn iti gynnau’r gwres
Ac yna fe droith yn felynach fel pres

Wrth ffrwtian yn araf yn ei wely’n glyd,
Ond yna fe fydd yn troi’n felyn i gyd,
Nid melyn bach golau ond melyn dwfn, drud,

Y melyn melynaf drwy’r byd yn grwn,
Melynach na phig fach aderyn y bwn –
Melyn mawr blasus y wawr yw hwn.

top