BLOG PONT Y GÔF

in Uncategorized with No Comments

Roedd ’na hwyl a sbri i gael ym Mhont y Gôf a phawb yn meddwl am ansoddeiriau a chymhariaethau difyr! Creodd pawb gymeriadau rhyfeddol eu hunain a gyda’n gilydd daeth ffrind dychmygol Ysgol Pont y Gôf i fodolaeth!!

 

Ffrind dychmygol Pont y Gôf

Creadur rhyfedd

a’i wallt yn wallgo.

Brychni ar bob boch

a’i drwyn yn llifo.

Llysnafeddog fel malwen

ac yn fain fel brigyn,

yn hyll fel ellyll

a’i groen yn felyn.

Ond mae hwn yn glen

ac yn greadur hapus.

Pan mae’n chwerthin

mae’n creu enfys.

Mae’n byw yn ddistaw bach yn y storfa,

a does neb ond y ni yn gwybod ei fod yma.

 

Mae angen meddwl am enw i’r ffrind dychmygol!! Allwch chi greu enw?!


Strict Standards: Only variables should be assigned by reference in /var/www/vhosts/barddplantcymru.co.uk/httpdocs/wp-content/themes/kiddo/comments.php on line 6
top