BLOG YSGOL BODHYFRYD

in Uncategorized with No Comments

BLOG YSGOL BODHYFRYD

Wynebau gwirion

Diolch i griw gwych blwyddyn 5 a 6 Ysgol Bodhyfryd am rannu eu syniadau gwych a dod a’r hydref yn fyw!! Dyma ddyfyniadau o’u gwaith campus!!

 

“Ym Modhyfryd mae’r hydref

yn lliwgar fel crysau tîm pêl-droed.

A llawer o ddail yn y dref

wedi disgyn oddi ar y coed.”

 

“Mae’r hydref yn Bodhyfryd

yn hwyl ac yn ddu.

Mae pob anifail gwyllt yn cysgu.

Ond beth am y dail sydd

yn oren, melyn a choch,

yn edrych fel fflamau noson tân gwyllt.”

 

“Ym Modhyfryd mae’r hydref

yn lliwgar fel clawr llyfr.”

 

“Ym Modhyfryd mae’r hydref

yn brydferth fel buwch mewn bicini.”

 

“Yng Nghymru ae’r hydref yn hwyl.

Y plant yn taflu dail i’r awyr

a gwneud patrwm fel paent arlunydd

ar gynfas hudolus byd natur.”

 

…ac roedd ’na fwy o gerddi gwych hefyd!! Da iawn wir!

 


Strict Standards: Only variables should be assigned by reference in /var/www/vhosts/barddplantcymru.co.uk/httpdocs/wp-content/themes/kiddo/comments.php on line 6
top