BLOG YSGOL TUDWEILIOG

in Uncategorized with No Comments

Roedd disgyblion Ysgol Tudweiliog wedi bod yn astudio hanes llong o’r enw ‘Cyprian’ wnaeth ddryllio ar y creigiau wrth y pentref nôl yn 1881. Pan nes i gyrraedd yr ysgol ges i hanes hogyn bach 9 oed o’r enw John Callan oedd wedi sleifio ar y llong yn nociau Lerpwl a chuddio. Pan ddaeth y storm a chwalu’r Cyprian roedd yn rhaid i’r Capten rannu siacedi achub i bawb er mwyn trio eu hachub. Roedd y Capten yn gwisgo’r siaced olaf ac ar fin neidio i’r dŵr pan glywodd lais bach yn crio. Gwelodd John Callan bach wedi dychryn a phenderfynodd Capten Strachan roi ei siaced ei hun i achub John. Wnaeth y Capten ddim goroesi ond fe achubwyd John diolch byth. Dyma gerdd rydd wnes i a chriw o flwyddyn 3, 4, 5 a 6 Ysgol Tudweiliog ei sgwennu am stori John:

 

John Callan

Ar lawr oer yn Lerpwl

cysgai John bach.

Ei ddillad yn garpiog,

yn llwglyd a llwyd,

breuddwydiai am fwyd

ac am fywyd gwell.

Ond roedd John Callan yn arogli halan,

a’r dociau yn denu.

Sleifiodd ar y Cyprian

a denyg.

 

Ar lawr oer y Cyprian

yn rhynnu rhwng y rhaffau,

a drewdod perfedd pysgod

yn suo yn ei ffroenau.

Cysgod traed y morwyr yn taro’r llawr,

Calon John Callan yn torri fel y wawr.

 

Ei fol yn swnian

a dim ond bara stêl yn y guddfan.

Clywodd yn sydyn

y gwynt yn gruddfan.

 

Roedd y môr yn colli’i dymar,

a’r tywydd yn hegar.

 

Bloeddio.

Rhuthro.

Poeni.
Rhegi.

 

Mellt y fflachio.

Taranau fel drymiau.

 

Y gwynt gwallgo yn rhuo.

Y Cyprian yn taro’r

creigiau

ac yn cracio

fel ŵy.

 

Pawb mewn siaced achub.

Does dim mwy.

 

Ond roedd John dal yn cuddio

heb siaced amdano.

A’i ddagrau yn hallt

fel y môr ei hun.

 

Clywodd y Capten ei sŵn digalon

a chydio ynddo â’i freichiau cryfion.

Ond doedd ’na ddim siaced achub ar ôl ar y Cyprian,

dim ond yr un a wisgai Capten Strachan.

 

Rhoddod ei siaced,

a rhoddodd ei fywyd.

Achub John,

ac achub ei freuddwyd.

 

Ac ar dywod oer traeth Rhosgor

Gorweddai John fel gwymon ar lawr.

Ond daeth pobl yr ardal i’w achub,

a’i gario i fferm Hirdre Fawr.

 

Ac yno o flaen y tân a’i fochau yn goch

Chlywai John ddim,

ond sŵn cloch.


Strict Standards: Only variables should be assigned by reference in /var/www/vhosts/barddplantcymru.co.uk/httpdocs/wp-content/themes/kiddo/comments.php on line 6
top