Blogs Ysgol y Dderwen ac Ysgol y Bedol!

in Uncategorized with No Comments

Blogs Ysgol y Dderwen ac Ysgol y Bedol!

BLOG YSGOL Y DDERWEN

 

Roedd blwyddyn 5 Ysgol y Dderwen yn griw mawr, ond yn hollol barod i farddoni! Wnaethoni greu cymhariaethau gwallgo, cwpledi doniol, a rhannu syniadau gwych! Dyma ’chydig o ddyfyniadau o’r gwaith:

 

“Rhedodd y mwnci yn gynt

na cheetah’n hela’r gwynt.”

 

“Mor wirion â rhywun yn dangos ei ben ôl i’r dosbarth!!”

 

“Mae Cai yn mynd i’r ffair cŵl

ac yn ceisio creu trwbwl.”

 

“Mae mam yn bwyta jam du

ac yn rhechu yn y tŷ.”

 

“Mor dalentog âg Olly Murs yn ennill Cadair yr Eisteddfod.”

 

“Roedd y sêr i gyd

mor llachar a’r lleuad llawn

yng nghanol y nos.”

 

“Mor wyllt a mwng llew sydd newydd fod yn dawnsio.”

 

“Mae Anni’n ffrind i ni,

Mae pawb yn ffrind i Anni.”

 

Diolch blwyddyn 5 Ysgol y Dderwen!

BLOG YSGOL Y BEDOL!

 

Diolch i griw gwych Ysgol y Bedol am y croeso! a Diolch am y syniadau a’r cerddi bach gwych naethoch chi greu!!

 

Dyma gerdd bach wedi ei hysbrydoli gan eich syniadau chi!!

 

YSGOL Y BEDOL

 

Pa mor gyflym yw malwoden ar gefn cheetah?

Pa mor hael yw’r heulwen yng nghanol yr ha’?

Pa mor lliwgar yw’r tywyllwch ar y 5ed o Dachwedd?

Pa mor hyll yw pen ôl buwch mewn gwirionedd?

Pa mor araf yw Bolt wrth redeg drwy gwsta’d?

Pa mor ffyrnig yw mwnci sydd newydd gael siafad?

Os am ateb i’r cwestiynau rhyfeddol,

Ewch draw am dro i Ysgol y Bedol.

top