BLOG YSGOL Y GARNEDD

in Uncategorized with No Comments

Roedd hi’n hydrefol iawn ym Mhenrhosgarnedd ger Bangor hefyd yr wythnos yma!! Dyma gerdd blwyddyn 5 a 6:

 

Hydref Penrhosgarnedd!

Mae’r hydref ym Mhenrhosgarnedd

yn rhyfedd.

Mae’r dail yn neidio oddi ar y coed

ac yn crensian fel creision dan droed.

Mor lliwgar â ffrwydriad yn oriel Piccasso,

mae’r hydref yn gwneud i’r canghennau ddawnsio.

Mae’r coed fel sêr Strictly

a’r gwynt yn chwibanu.

Ond dwi’n teimlo’n gynnes

yn glyd yn fy ngwely.

 

Diolch dŵds Ysgol y Garnedd!

top