Bolognia Yn Croesawu’r Beirdd

in Bardd with No Comments

laureates arall
O’r chwith i’r dde: Johanna Lindbäck, Llysgennad Darllen Sweden; Malorie Blackman, Awdur Llawryfog Plant y DU;
Aneirin Karadog, Bardd Plant Cymru; Martin Daws, Awdur Ieuenctid Cymru.

Ar noson llawer cynhesach na nosweithi gwyntog diweddar Cymru, fe lanion ni (29/03/15) ym maes awyr Bologna. Y gorchwyl cyntaf oedd cael cwrdd â’r awduron llawryfog i blant a phobol ifanc eraill sydd wedi hedfan i’r Eidal ar gyfer y gynhadledd hon. Mae gyda ni gynrychiolwyr o Iwerddon, Lloegr, Sweden, Y Ffindir, Awstralia, Mecsico a’r Iseldiroedd yn ogystal â’r dau fardd plant o Gymro.

Mae’n ddiddorol mai llenorion yn hytrach na beirdd yw’r rhan fwyaf o gynrychiolwyr y gwledydd eraill, gyda’r grefft o adrodd stori felly yn fwy o ganolbwynt y gwledydd hynny wrth geisio denu eu hieuenctid i fwynhau darllen a chreu llenyddiaeth. Mae rhai awduron plant hefyd yn llysgenhadon darllen, yn hytrach na phobol sy’n annog ieuenctid i greu, sydd eto’n gyfeiriad diddorol i’w prosiectau. Adlewyrchiad o’n gwlad i’w ymfalchïo ynddo hefyd mae’n siŵr yw’r ffaith mai barddoniaeth y mae Cymru yn ei ddefnyddio i ddal dychymyg y to iau.

Fore Llun mae cyfarfod 3 awr o’r holl awduron i gymharu a gweld beth allwn ei ddysgu i’n gilydd, a chreu o’r rhwydwaith ryngwladol hon.

top