Bwrw’r aur yn Aberaeron

in Bardd with No Comments

Brynhawn Mercher (18/03/15) ces groeso cynnes iawn yn ysgol uwchradd Aberaeron. Roedd paneidiau a bisgedi yn fy nisgwyl yn y dosbarth, sy’n anarferol ac yn hyfryd, felly dechre bu raid drwy rapio am yfed te! Sylweddolais yn glou mod i yng nghwmni criw a fwynheai ddefnyddio’r iaith, gobeithio y peri hynny a bod cyfleon ganddynt i’w defnyddio tu hwnt i’r ysgol. Erbyn diwedd y prynhawn fe greuwyd dwsinau o benillion difyr, a’r beirdd yn amlwg yn gallu trin geiriau a chael hwyl wrth wneud. Diolch am y croeso.

top