Bylchau

in Bardd with No Comments

Mynnodd y Mis Bach dwgyd ein cewri
a gadael bwlch a dawela’n byd,
bwlch na welwn mo’i waelod
wrth grychu dros y dibyn;
Bwlch na welwn ei ben draw
wrth inni wag-rythu tua’r gorwel.

Ond teimlwn bob eiliad o’n hanes,
galarwn a dathlwn bob darn
yn frwydrau ym mhob deigryn,
yn gamwedd ym mhob gwên.

Mae alawon i’w clywed o hyd,
awn a dal pob nodyn a’u byw
yn gân o Gymreictod
a’i chanu’n uchel.

Cerddwn drwy labrinth ein llên
a rhyfeddu at y dweud sy’n furiau
ar y daith, ar lwybr sy’n arwain
i’n canfod ni ein hunain.

Er i gryman y Mis Bach
syrthio mor swrth,
trown ninnau’n egin
melyn ym mylchau Mawrth,
cofiwn a dathlwn
wrth i’n cenedl flodeuo,
a gwybod bod ein cewri
yn ail godi bob Gwanwyn.

Aneirin Karadog

top