Cerdd Fawr Gawslyd Caerffili

in Bardd with No Comments

Yn ystod Eisteddfod yr Urdd fe gynhalies i (Aneirin, nid Anni!) weithdy ym Mhentre Mr Urdd gan wahodd pobol a oedd yn pasio i gyfrannu llinell yr un i greu Cerdd Fawr Gawslyd Caerffili. A dyma’r canlyniad!

Cerdd Gawslyd Caerffili- Aneirin Karadog

Nid caws swil yw caws Caerffili,

O flas castellog y mae’n drewi

Mae’n gaws barddonol llawn o odli

Mae’n gaws sy’n lico neud selffi

Ac fe dynna wyneb sili

Mae’n gaws o’r enw Bili

Mae’n gaws fwy ‘cheesy’ na Magi

Mae’n hoff o barti ‘da Dewin a Doti

Mae’n gaws sy’n ffansi-pansi!

Mae’n gaws dawnsi, pansi-ffansi

Mae’n gaws sy’n gaws i Hari

Ond nid yw’n gaws sy’n gaws i fi,

Mae’n datgymalu wrth gystadlu

Yng ngwres y llwyfan mae’n toddi fel tosti

Nawr mae’n gaws sydd wedi pwdu

Bellach caws swil yw caws Caerffili

A dyma ein cerdd ni wedi bennu!

top