Cymru yw’r Brooklyn Newydd!

in Bardd with No Comments

Mae deuddydd wedi pasio ers glanio nol yng Nghymru wych, wedi bron i wythnos o arhosiad yn Efrog Newydd. Cyfle felly i fyfyrio ar gyfnod bythgofiadwy yr ochr draw i fôr yr Iwerydd. Prin y dychmygais i wrth ddechre fel Bardd Plant Cymru y byddai’r fath gyfle yn codi i fynd ar wahoddiad llenyddiaeth Cymru i fod yn rhan o gynhadledd fawr a drefnwyd gan Urban Word, sefydliad sy’n gnweud gwaith llenyddol-gymdeithasol amhrisiadwy gyda phlant a phobol ifanc yn Yr Afal Mawr.  Hoffwn ychwanegu nad oedd y daith i Efrog Newydd yn rhan o gynllun y Bardd Plant, ac na fydd unrhyw weithgaredd fel Bardd Plant Cymru nôl yng Ngwlad y Gân ar ei cholled o’r herwydd.

Ar ein hail ddiwrnod yno, es i a Martin Daws, Awdur Llawryfog Pobl Ifanc Cymru, i wneud gweithdy gyda merched yn eu harddegau yn y Bronx, gweithdy a drefnwyd drwy Ganolfan Ysgrifennu y Bronx.  Mae’r dealltwriaeth a gododd rhyngom ni yn dal i aros yn y cof ac mae’n debyg ein bod ni fel dau Fardd Plant o Gymru wedi gwneud argraff arnyn nhw.  Gweler blog blaenorol am y profiad rhyfeddol gawsom ni.  Thema a gododd yn go fuan ac a fynnodd aros gyda ni drwy gydol y daith yw fod barddoniaeth yn newid ac yn achub bywydau yn UDA.  Does dim rheswm pam na all barddoniaeth, yn enwedig yng Nghymru, gael yr un effaith.

Dechreuodd y gynhadledd gydag anerchiad gan Dr Maxine Green, ynghyd â Meghan McDermott.  Does ond angen i chi gwglo enwau’r rhain i wybod fod gyda nhw berlau o brofiad a gwybodaeth i’w rhannu. Roedd gweddill y profiad o gynadledda yn un dwys a thu hwnt o fuddiol. Fe gwrddon ni ag addysgwyr barddoniaeth a’u myfyrwyr sydd bellach yn awchu i fynd i’r ysgol ac sy’n dangos cynnydd mewn marciau ar draws pob pwnc addysgiadol am eu bod yn cael awr o gyfle i rapio yn yr ysgol bob wythnos.  Tasen i wedi cael doler am bob person wedodd wrthom ni fod barddoniaeth wedi achub eu bywyd, byddwn i’n gallu fforddio prynnu hanner Manhattan.  Yn sgil y sesiynau, areithiau a gweithdai y bues i a Martin yn rhan ohonyn nhw, rwyf wedi dod i’r casgliad fod potensial i’r Bardd Plant i gyflawni tri pheth o hyn ymlaen.

1 – Cael plant a phobol ifanc i fwynhau barddoniaeth i’r graddau eu bod yn gallu naill ai darllen a gwrando ar farddoniaeth o bob math (sy’n cynnwys rap a ffurfiau llafar eraill) a/neu teimlo fod gyda nhw bellach ffordd o fynegi eu teimladau, hunaniaeth a phrofiad bywyd mewn ffordd sy’n gathartig, therapiwtig ac emosiynol lesol iddyn nhw.

2 – Annog plant a phobol ifanc i fwynhau defnyddio’r Gymraeg gan sylweddoli fod cyfoeth o eiriau i fynegi pob dim posib ar gael yn un o ieithoedd hynaf Ewrop.

3 – Gweithio gydag Athrawon i ddatblygu hyder wrth drin a thrafod barddoniaeth yn y dosbarth, a chreu adnoddau difyr a defnyddiol i athrawon a disgyblion sydd ar gael ar y we, sydd â’r potensial i ysbrydoli pobol ifanc i fynegi eu hunain yn greadigol.

Mae’r 3 elfen hon yn o heriol ond rhaid anelu’n uchel pan fo bywydau cenhedlaeth nesaf ein cenedl dan sylw.  Mae barddoniaeth yn ogystal â chyffwrdd calonnau yn gallu agor drysau i bobl, yn enwedig o ystyried y pwyslais cynyddol ar ddatblygu llythrennedd.  Hyd yn oed os nad barddoni fydd dewis cyfrwng nifer o’r bobl ifanc fydd yn cydweithio â’r Bardd Plant, mae’n rhywbeth sy’n cyfoethogi bywydau yn ddiwylliannol ac yn emosiynol ac i mi mae hynny yn amhrisiadwy. Rhaid i swydd y Bardd Plant anelu tua’r entrychion, dyna’r unig ffordd i sicrhau mymryn o lwyddiant. Rhaid hefyd i ni fel Cymry edrych mas i’r byd er mwyn goroesi fel cenedl a dysgu am ein hunain. Nid nawr yw’r amser i orffwys ar ein rhwyfau.

Ydw i wedi cael fy llyncu gan y freuddwyd Americanaidd? Nac ydw. Oes yna bobl yng Nghymru sy’n cyflawni rhai o’r elfenau uchod eisioes? Oes. Ond dyma gyfle unigryw i gynllunio a strwythuro swydd y Bardd Plant fel bod lle barddoniaeth ym meddwl yr ifanc yn un teilwng a phwysig.  Disgrifiodd Kevin Coval, sefydlydd gwyl farddoni ‘Louder Than a Bomb’ y parch sydd i feirdd o fewn ysgolion Dinas Chicago fel ffenomen rhyfeddol, fod beirdd fel sêr roc a rol o amgylch y coridorau.  Yn bwysicach, trafododd fel ei fod e a’i gydweithwyr yn Chicago wedi dechrau drwy danio dychymyg pobol ifanc mewn ysgolion, ond bod hynny wedi lledu i’r cymunedau a thrwy ddinas Chicago.  Yn ôl Coval aeth yr un mudiad ac egni ymlaen i chwarae rhan hanfodol yn llwyddiant Barack Obama wrth gael ei ethol i’r Ty Gwyn.  Felly mae barddoniaeth yn newid bywydau!

Nid hewl un ffordd oedd y cysylltiadau a greusom yn Efrog Newydd. Fel yr unig feirdd o ynysoedd Prydain yno, ac felly yn llysgenhadon dros Gymru, fe sylweddolodd llawer o bobl allweddol fod Cymru yn wlad flaengar am fod gyda ni’r swyddi hyn yn bodoli eisioes fel Bardd Plant Cymru ac Awdur Llawryfog Pobl Ifanc Cymru.  Gobeithio fy mod i a Martin wedi llwyddo i rannu ein profiadau yn effeithiol gan gyfoethogi dealltwriaeth a ffordd o weithio ein cyd-gynadleddwyr.  Cymaint oedd yr ysbryd o gyd-weld rhwng y Cymry a’r Americanwyr yn y gynhadledd fel bod Kevin Coval wedi datgan ar ddechrau ei araith: “Wales is the New Brooklyn!”

O ddechrau ein cyfnod fel Bardd Plant Cymru ac Awdur Llawryfog Cymru, fe wnes i a Martin Daws ddatgan ein bod yn awyddus i gydweithio, er lles dyfodol ein gwlad ac er lles yr iaith.  Does neb yn fwy cefnogol i barhad popeth sy’n dod gyda bodolaeth y Gymraeg na Martin Daws, ac fel cyn-Sais o Surrey sydd nawr yn dysgu Cymraeg ac wedi gosod gwreiddiau yn Nyffryn Ogwen, mae hynny’n beth mawr.

Wedi i ni ddysgu cymaint a phrofi croeso rhyfeddol ac ysbrydoliaeth dibendraw yn Efrog Newydd, mae’n hanfodol ein bod ni yn cydweithio a  gweithredu ar hyn fel bod plant a phobol ifanc Cymru yn teimlo grym barddoniaeth. Pwy a ŵyr, efallai y byddwn ninnau hefyd yn clywed fod barddoniaeth wedi achub bywydau.

top