CYMRY LLUNDAIN

in Uncategorized with No Comments

CYMRY LLUNDAIN

Roedd na groeso cynnes iawn i’w gael yn y Ganolfan Cymry Llundain gan y plant a’r rhieni! Roedd pawb wedi gwisgo crys coch neu ddillad Cymreig ac roedd Cymru newydd guro Ffrainc yn y rygbi’r noson cynt felly roedd hwyliau da ar bawb! Roedd hi’n dipyn o sbort taflu Peli Eira Geiria a cheisio odli a cymaint ac oedden ni’n gallu! Ond dyma gerdd fach hyfryd wnaeth y criw ei chyfansoddi cyn i mi adael…

 

Dydd Gŵyl Dewi

Mae Llundain yn lliwgar.

Coch, gwyn a gwyrdd,

a melyn y Cenin Pedr fel aur.

Cymraeg yn dawnsio yn ein clustiau.

“Dydd Gŵyl Dewi hapus!”

Cacennau Cri, Cawl, Bara Brith,

mae Llundain yn flasus.

Teimlo’n gyffroes.

Teimlo’n ardderchog.

Diwrnod i’w gofio,

neb yn bigog.

 

Diolch am y croeso! A diolch am y llun Steffan!

top