Cynganeddu yn Llanfair ym Muallt

in Bardd with No Comments

Wedi cyfnod go dawel o ran clera’r Bardd Plant, heddi fe es i ar ymweliad swyddogol cynta’r flwyddyn, a hynny i Ysgol Uwchradd Llanfair ym Muallt. Roedd y tirlun yn hudolus o aeafol wrth i mi gyrchu am gaer fy noddwyr, a finnau’n gallu dychmygu Llywelyn ar ei farch a’r carnau fwg o eira o’i ôl, chwedl Gerallt Lloyd Owen. Ymlaen gwynt am Langanten, a dyma basio carreg Cilmeri, gan deimlo’r tawelwch iasol sydd wastad i weld yn llenwi fy llygaid wrth ei phasio. Roedd mawredd awdl Gerallt i Gilmeri yn canu drwy’r cof wedi hynny wrth i ni fynd ati o ddysgu cynganeddu. Criw o ddisgyblion rhwng blwyddyn 7 a’r Chweched oedd darpar brifeirdd yr ymweliad ac erbyn amser cinio, roedden nhw oll wedi creu cwpledi cynganeddol o Lusg a Thraws Fantach!

Dyma fynd ati wedyn i fydryddu gydag enwau llefydd hyfryd o swynol yr ardal. Ond efallai i ni gyrraedd y gwir uchelfannau gyda’r cwpled “Stopio yn Aberedw/ a mynd i gael pw” – y patrwm odli cynganeddol (Cwpled cywydd gair Diacen a Gair Acennog ar yr odl) wedi cydio o leiaf!. Bu’r prynhawn yn gyfle i weithio ar lunio gwaith ar gyfer Eisteddfod yr ysgol, a nifer o’r cerddi hynny’n mynd i gyfeiriadau diddorol ac yn dangos dawn addawol. Diolch i’r criw am y croeso ac am gynnal ysbryd Llywelyn ein Llyw Olaf(enw sy’n cynganeddu hefyd).


 

top