Cyrhaeddais Ysgol y Creuddyn…

in Bardd with No Comments

creuddyn

Ar fore fy mhenblwydd (11/05/2015) fe ges i’r pleser o alw yn Ysgol y Creuddyn, ysgol yr oedd fy nhad yn athro ynddi pan agorodd hi am y tro cyntaf ym 1981. Mae safon yr athrawon wedi codi ers hynny, wy’n falch o ddweud!

Roedd safon y cerddi yn rhywbeth i’w ymfalchïo ynddo hefyd gan bod y criw wedi mynd ati mewn amser byr iawn i greu a pherfformio gweithiau a oedd yn llawn ôl ysgrifennu da wedi ei gyfuno â dawn gynhenid. Diolch yn fawr i’r criw am y croeso. Dyma un o gerddi’r grwpiau:

Cerdded drwy’r coridorau crynedig
Ysbrydion yn fy ysu mewn i’r ystafelloedd
Adeilad Arbennig
Ysgol y Creuddyn.

Bwystfil brawychu yn bwyta’r bechgyn
Gwrachod gwyrdd yn coginio’r genethod,
Sŵn sgrechian swynol y delyn
Lle iasol yw’r creuddyn

Anghenfil arswydus yn bwyta’r athrawon
Pryfed rhyfedd yn brathu’r plant,
A ydych am fentro
I’r Creuddyn y flwyddyn nesaf?


Strict Standards: Only variables should be assigned by reference in /var/www/vhosts/barddplantcymru.co.uk/httpdocs/wp-content/themes/kiddo/comments.php on line 6
top