Dathlu Diwrnod T. Llew Jones

in Bardd with No Comments

Ar 11 Hydref, bydd Cymru gyfan yn dathlu Diwrnod T. Llew Jones, sef diwrnod sydd wedi ei greu yn arbennig i ddathlu bywyd a gwaith yr awdur llyfrau plant poblogaidd.

Bydd rhai ohonoch yn gwisgo i fyny fel eich hoff gymeriadau o’i lyfrau – Tim Boswell y sipsi bach, neu Barti Ddu y môr leidr efallai?

Bydd parti mawr i rai lwcus ohonoch chi ym Mhentref Bach lle bydd Eurig Salisbury yn dod i ddweud helô.

Ac ar 10 Hydref, bydd Eurig Salisbury yn ymweld ag Ysgol Gymunedol T. Llew Jones i gynnal gweithdai barddoniaeth gyda disgyblion yr ysgol newydd sbon hon.

Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud rhywbeth arbennig i ddathlu, ac i ddymuno Pen-blwydd Hapus i T. Llew Jones!

top