Diwrnod y Llyfr 2013 / World Book Day 2013

in Beirdd Bach with No Comments

Diwrnod y Llyfr 2013 / World Book Day 2013

Ar Ddiwrnod y Llyfr 7 Mawrth 2013 fe deithiais i mewn fan fawr wen (peidiwch a gofyn pam) yr holl ffordd i Landudno. Roedd gen i annwyd trwm y diwrnod hwnnw, ond fe lwyddodd plant Ysgol Pant Pastynog ac Ysgol Pendorlan i godi fy nghalon. Dyma gerddi’r plant, wedi eu hysbrydoli gan rysáit hud yn llyfr enwog Roald Dahl, James a’r Eirinen Wlanog Enfawr.

On World Book Day 7 March 2013 I drove a big white van (don’t ask why) all the way to Llandudno. As it happened, I had a bit of a cold, but children from Ysgol Pant Pastynnog and Ysgol Pendorlan managed to cheer me right up. Here are their poems, which were inspired by a magic recipe from Roald Dahl’s famous book, James and the Giant Peach.

Trwyn dafad, perfedd buwch ac ewin ’di llwydo,
Llygaid zebra, coes dde iâr a chorn hen reino,
Llysnafedd gwyrdd ac asgwrn cefn racŵn,
Ysgyfaint cath, clust llew a phenglog babŵn,
Ymennydd mwnci o Affrica bell,
Barf hen, hen ddyn wedi’i gloi mewn cell,
Pum iau llygoden a llond pwll nofio o waed,
Gwddw jiraff, llaeth gafr cynnes a llond lle o draed,
Troed chwith gorila a blewyn o’i wallt,
Naw coes octopws, troli ar waelod allt,
Chwech o galonnau eliffant o Sŵ Caer,
Chwe deg tri o bryfaid cop o’r twll dan staer,
Dannedd ci, cynffon crocodeil a siarc reit fawr,
A berwch y cyfan mewn crochan am flwyddyn ac awr.

Ysgol Pant Pastynnog

A slug’s slime and a snow leopard’s guts,
A bird’s eye and twenty elephant butts,
A monkey’s pelvis and sweaty armpits,
A purple pig’s snout and stinky fishbits,
A heart of a hippo from an alligator’s belly,
A poet’s brain pickled in out of date jelly,
Worms’ vomit and a jar of old farts,
A dart frog’s poison and an ancient fish’s heart,
Eurig’s right ear, my teacher’s hair,
Three pointy shark fins and the bum of a bear,
Two pirhanas’ livers and a rattlesnake’s rattle
And the toe of a man who died in battle,
Mario’s mustache and, without delay,
Boil the lot in a big pot for a year and a day.

Ysgol Pendorlan

top