Dolgarrog

in Bardd with No Comments

Dolgarrog 11 Mai 2015

Bu’r daith i Ysgol Gynradd Dolgarrog yn un bleserus iawn lawr drwy ddyffryn Conwy, dyffryn prydferth iawn mae’n rhaid dweud. A chynnes iawn oedd y croeso gan y staff a’r disgyblion wrth i ni fwrw ati i fwynhau chwarae â geiriau.

Ar safle’r ysgol hefyd mae Canolfan Iaith Gymraeg Conwy, lle sy’n gwneud gwaith amrisiadwy gyda phlant sy’n cyrraedd yr ardal yn ddi-Gymraeg, ac sydd angen eu trwytho i allu bwrw mlaen â’u haddysg. Os ydy’r canolfannau iaith hyn yn bodoli ac yn gweithio lle mae mewnfudwyr yn y cwestiwn, pam nad edrychwn ar blant cynhenid di-Gymraeg Cymru, o ran eu Cymreigio nhw hefyd?

Dolgarrog

top