Eisteddfod! Yn yr Eisteddfod ieeeeee!

in Bardd with No Comments

Mae fy hoff adeg o’r flwyddyn ar ein gwarthau!! Ody, mae’r Brifwyl yn cyrraedd Dinbych a miloedd o Gymry yn glanio gyda hi yn yr ardal hyfryd hon o wlad y gân.  Efallai mai dyma fydd yr Eisteddfod brysuraf i mi ei phrofi erioed gyda llwyth o ddyletswyddau llawn hwyl yn fy wynebu fel Bardd Plant Cymru.  Am y tro cyntaf, cynhelir Gŵyl Llên Plant yr Eisteddfod.  Gŵyl o fewn y Brifwyl felly bargen! Fel rhan o’r ŵyl mae llwyth o ddigwyddiadau a gweithgareddau i blant Cymru ac yn eu plith byddaf yn cynnal ambell ddigwyddiad fy hunan. Un digwyddiad cyffrous yr hoffwn i weld llawer o blant yn dod iddo yw’r Stomp Plant. Dyma’r Poster:

I wybod mwy am holl rhychwant y gweithgareddau cliciwch ar hwn.

Yn ogystal â’r gweithdai Gŵyl Llên Plant, dyma ymdrech felly i restru beth fydda i’n ei wneud, pryd a ble ar faes y Brifwyl:

Sadwrn 03/08 11:30  – Lawnsiad  Gŵyl Llên Plant yr Eisteddfod – Cyfle i gael hwyl gyda geiriau, drwy gemau o bob math.

Sadwrn 03/08 15:00 – Gweithdy Barddoni/Rapio ar Stondin Y Coleg Cymraeg.

Mawrth 06/08 10:00 – Trafodaeth ar rôl y Bardd Plant gyda chyn-feirdd plant yn y Babell Lên

Mawrth 06/08 14:00 – Gweithdy Barddoni/Rapio ar stondin Yr Urdd

Mercher 07/08 11:30 – Gweithdy Barddoni ym Mhabell Gŵyl Llên Plant yr Eisteddfod

Mercher 07/08 15:30 – Sesiwn Her Geiriau Stwnsh ym Mhabell Gŵyl Llên Plant yr Eisteddfod – Slepjan!!

Iau 08/08 12:30 – Y Stomp Plant yn y Neuadd Ddawns

Iau 08/08 13:45 – Sesiwn Her Geiriau Stwnsh ar Lwyfan Perfformio’r maes – Slepjan arall!!

Iau 08/08 16:00 – Sesiwn her Geiriau Stwnsh ym Mhabell Gŵyl Llên Plant yr Eisteddfod – Slepjan eto fyth!!

Gwener 09/08 10:30 – Lawnsiad Ymgyrch Shwmae/Sumai yn stondin yr Urdd

Sadwrn 10/08 11:30 – Gweithdy Rapio ym Mhabell Gŵyl Llên Plant yr Eisteddfod.

 

Mwynhewch bob munud a gobeithiaf yn fawr y gwela’ i chi yno.

Aneirin.

 

 

 


Strict Standards: Only variables should be assigned by reference in /var/www/vhosts/barddplantcymru.co.uk/httpdocs/wp-content/themes/kiddo/comments.php on line 6
top