Gweithdy Arbennig Ysgol Bro Edern

in Uncategorized with No Comments

Gweithdy Arbennig Ysgol Bro Edern

BLOG YSGOL BRO EDERN!

 

Roedd criw blwyddyn 7 Ysgol Bro Edern yn wallgo!! Gawson ni ddafad yn rhapio, afalau mawr tew a cholomennod ffynci!!

 

Ro’n i ac Aneirin yno’n cadw stŵr ac fe gawson ni groeso penigampus. Roedd o’n fordd berffaith o ffarwelio âc Aneirin. Roedd ambell un o’r criw wedi bod mewn gweithdai gydag Aneirin yn yr ysgol gynradd. Roedd ambell un hyd yn oed yn cofio geiriau’r rap “Paneidiwch!” i gyd!!

 

Ges i gerdd hyfryd ganddo hefyd… a ges i gyfla i ddwyn rhai o’i syniadau!! Er, dwi ddim yn meddwl y bydda i’n cofio “Paneidiwch!” yn ddigon da i’w rapio!

 

Ond dwi’n gwybod y bydd Aneirin yn barod i roi help llaw unrhyw dro os y byddwch chi’n rhy wallgo i mi!!

 

Diolch Aneirin, rwyt ti’n Fardd Plant arbennig!

top