Gwobr Ryngwladol Astrid Lindgren

in Bardd with No Comments

Gwobr Ryngwladol Astrid Lindgren

Yn Ffair Llyfrau Plant Bologna, roedd seremoni wobrwyo Gwobr Goffa Astrid Lindgren yn digwydd, a sefydlwyd yn sgîl ei marwolaeth yn 2001. Hi oedd awdur llyfrau plant mwyaf Sweden. Dyma wobr sy’n cael ei dyfarnu i awdur, arlunydd sefydliad sy’n arloesi ym myd llyfrau plant, a gall yr awdur ddod o unrhyw un o’r 60 o wledydd sy’n enwebu fel rhan o’r broses wobrwyo.

Mae’r wobr yn brysur wneud enw i’w hunan fel un pwysig yn fyd-eang, gyda swm ariannol cyfatebol i 300,000 o bunnau a phob anrhydedd a ddaw gyda hi. Yn ôl rhai dyma’r wobr nobel i’r byd llyfrau plant.

Ynghyd â’r awduron plant llawryfog o’r gwledydd eraill sydd yma yn y gynhadledd, ro’n i a Martin Daws (Awdur Llawryfog Plant a Phobol Ifanc Cymru) yn bresennol i weld y gwobrwyo’n digwydd.

O ran y profiad mae’n debyg i seremoni cadeirio neu goronni’r Eisteddfod Genedlaethol, ond dan arweiniad Swedwyr sydd ddim mewn gwisgoedd gwynion ac yn cario cleddyf anferth.

Yn sydyn daeth cyswllt fideo o lyfgrell cenedlaethol Sweden, lle roedd Alice Bah Kuhnke, Gweinidog Diwylliant Sweden yn annerch yn fyw i Fologna. Yn gyffrous iawn daeth y cyhoeddiad mai enillydd y wobr ar gyfer 2015 oedd PRAESA – sefydliad sy’n annog darllen ar draws 11 o ieithoedd a diwylliannau ac yn gwneud gwaith gwych yn Ne Affrica. Llongyfarchiadau mawr iddyn nhw a gobeithio y bydd y wobr, ei bri, a’i awm ariannol syoweddol yn gallu gwneud gwahaniaeth pellach i blant yn Ne’r Affrig.

top