I Aneirin Karadog

in Bardd with No Comments

I Aneirin Karadog

Llongyfarchiadau mawr iawn i Fardd Plant Cymru 2013-15, Aneirin Karadog! Fe gefais i’r fraint o gyhoeddi enw Aneirin o lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Sir Benfro heddiw. Bydd gwefan newydd yn cael ei lansio’n fuan ar gyfer y Bardd Plant, lle bydd pob math o gerddi, raps, lluniau a fideos newydd cyffrous ar gael.

Yn y cyfamser, dyma gerdd fach gen i i’w gyfarch e.

Ŵyl Boncath, wele bencerdd
A phenrapiwr, gŵr wrth gerdd,
Bardd gwib yr Urdd, gwiber wyllt,
Dewin geiriau, dyn gorwyllt.

Ar yr iard ac yn yr Urdd,
Ar wifi ac ar briffyrdd,
Gwaeddwch a chofiwch ofyn
I Nei ‘shwdi bei?!’ bob un.

O Borth-y-gest i Borth-gain,
O Gilwendeg i Lundain,
Ar ran plant Cymru heno,
Gyda Nei rhaid gweud un ‘yooo!’

top