Llawn o heniaith yw Llanwnnen

in Bardd with No Comments

Cyrhaeddais Ysgol Llannwnen heb fawr o syniad o beth i’w ddisgwyl. Mi yrrais drwy Lannwnen gannoedd o weithiau ar fy nheithiau, ond heb fydd aros i sylwi ar y pentre ei hunan, ac am groeso a gefais gan y disgyblion a’u hathrawon. Roedd yn gwch gwenyn o Gymreictod a bywyd gyda’r plant yn profi bod y Gymraeg yn hollfyw a holiach yn y gymuned honno. Braf wedyn oedd bwrw mlaen i greu campwithiau ar amrywiol bynciau, rhai wedi sôn mewn rap am anifeiliad o bob math, eraill wedi canu am “fflamau’n dawnsio fel dawnswyr hip-hop” ac eraill yn canu clod i fywyd y ffarm, bydde Dic Jones yn falch iawn ohonynt.

top