Llongyfarchiadau i Enillwyr Gwobr Tir Na Nog

in Bardd with No Comments

Ddoe ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd cyhoeddwyd enillwyr gwobrau Tir Na Nog. Gareth F Williams a ddaeth i’r brig yn y categori llyfrau cynradd gyda’i nofel ‘Cwmwl Dros y Cwm’ yn aildroedio un o benodau tristaf ein hanes yng Nghymru gyda marwolaeth 439 o lowyr yn nhanchwa Senghennydd. Mae Gareth bellach wedi ennill y wobr 5 o weithiau! Haf Llewelyn, a enillodd ei gwobr Tir Na Nog gyntaf, yn y categori uwchradd gyda nofel o’r enw ‘Diffodd y Sêr’ yn dweud stori Hedd Wyn mewn modd trawiadol. O lwyfan y brifwyl, fe gyferchais y buddugwyr gyda’r cerddi canlynol. Pob dymuniad gorau i’r awduron a da iawn unwaith eto ar ddod i’r brig. Heb os, y peth pwysicaf sy’n dod i’r amlwg bob blwyddyn gyda Gwobrau Tir Na Nog, yw pa mor hanfodol bwysig yw creu awch i ddarllen ymysg ein darllenwyr ifanc, er mwyn sicrhau dyfodol iach i’n hiaith.

I gyfarch Gareth F. Williams, enillydd Gwobr Tir na n-Og 2014

Stori’r Storom

Mae i storom ei stori,
o’i thwf i’w rhyferthwy hi.
Caneuon sy’n cyniwair
a hel y gwynt fesul gair.
O ymyl dewr y cwmwl du,
nes i gân gael ei sgwennu,
arhosaist, i ail-greu iasau
o stŵr mawr stori am wae.
I Senghennydd y dydd du,
i aileirio sŵn galaru,
est dy hun a chreaist waith
o wynebu’r anobaith.
Mae i storom ei stori
a daw hon o d’eiriau di.

I gyfarch Haf Llewelyn, enillydd Gwobr Tir na n-Og 2014

Cynnau’r Sêr

Fe est i hirnos y ffosydd – est ti
dros y top o’r newydd,
mewn hiraeth daeth gwawrio’r dydd,
a’i danio wna d’awenydd.

Dwylo’n crynu fel deilen – ei ddwylo’n
ddielyn, ddigynnen,
dwylo mud a’r byd ar ben,
a dwylo’n troi’r dudalen …

Heno dan leuad dyner – dy awr di
dyr y daith drwy amser;
o oedi, cei, uwch ei gader,
yr ias o weld cynnau’r sêr.

Aneirin Karadog

top