Llwyfan Anferth i’r Gerdd Fawr

in Bardd with No Comments

Dim ond gair bach i gyhoeddi datblygiad cyffrous gyda’r Gerdd Fawr. Bellach,mae’r penillion o bedwar ban cymru wedi fynghyrraed yn saff ac rwy wrthi’n rhoi trefn ar y campwaith.   Y newydd cyffrous sydd gen i i’w gyhoeddi yw y bydd y Gerdd Fawr yn cael ei chyflwyno i’r genedl ar lwyfan yr Urdd,ym Meironydd Eleni. Bydd yn cael ei pherfformio mewn amryw o ffyrdd gyda chyjyhedd o berfformiadau yn fyw ar y llwyfan ac o’r wal fideo,ac os allwn ni feddwl am ffordd gyffrous arall o gyfleu barddoniaeth,fe hwpwn ni fe mewn i’r ecstravaganza!

top