LLYFRGELLOEDD!!

in Uncategorized with No Comments

LLYFRGELLOEDD!!

Cefais lawer o hwyl yn ystod gwyliau hanner tymor. Ges i ymweld a Llyfrgell Pentre’r Eglwys a Llyfrgell Treorci. Wir i chi roedd dychymyg y beirdd bach yn rhemp!!

 

LLYFRGELL PENTRE’R EGWLYS

 

Llyfrgell llysnafeddog

a’r geiriau fel gwlithod mewn glyd

yn ymlwybro i’n dychymyg.

Ambell stori stormus

yn gwneud i mi deimlo’n ofnus.

Ambell hanes hudol

sy’n lliwgar a byddarol.

Clipiau papur rhyfedd

yn dawnsio ar y llenni.

Dyn anhygoel o foel

yn cael blas ar chwedl,

fel pe tai’n bwyta stecen

a’r idiomau’n dawnsio

rhwng ei ddannedd.

Awduron fel ysbrydion

yn rhannu syniadau swynol.

Mor llachar yw eu cyfrinachau

a’u dychymyg aruthrol.

 

Os ydach chi’n mynd i Lyfrgell Pentre’r Eglwys ewch i chwilio am y clipiau papur ar y llenni, mae nhw yno!! Wir i chi!

 

Beth am feirdd Treorci ’ta? Wel roedd y criw yma wrth eu bodd yn rhoi geiriau at ei gilydd oedd yn swnio’n chwareus. Felly dyma greu rhestr arbennig!!

RHESTR SIOPA ANGHENFIL

 

Gogyls glas golau golygus o Glasgow.

Brechdan bresych brawychus.

Moron melyn melys o Mecsico.

Glaw sy’n blasu fel caws.

Naw llaw wedi boddi mewn baw trwyn.

Glaswellt gwych wedi sychu’n syth.

Losin a slysh lysh i droi tafod yn binc.

Llond y sinc o inc.

Ac i orffen, drych anferth,

i weld os yw’r anghenfil yn brydferth.

 

Beth am i chi greu rhestr siopa anghenfil? Allwch chi roi unrhyw beth arno!!

 

top