Neges Ewyllys Da o Gymru i Batagonia

in Bardd with No Comments

Bu heddiw’n ddiwrnod gwahanol i’r arfer o ran gweithgareddau bardd plant gan y bûm yn creu rhywbeth nad oedd yn farddoniaeth. Wel, gobeithio fod y canlyniad yn teimlo farddonol i’r gynulleidfa. Ac mae posib y bydd yn gynulleidfa eang iawn gan mai llunio Neges Heddwch ac Ewyllys da yr Urdd yr oeddwn i a chriw o ddisgyblion Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Neges sy’n mynd drwy’r byd ac i sawl iaith gan obeithio llefu dymuniadau cadarnhaol. Y hwanwyn nesaf y caiff y neges ei chyhoeddi ac felly gyda 150 mlwyddiant glaniad cyntaf y Cymry ym Mhatagonia, neges sy’n ystyried hynny yw hi. Er na chaf ei datgelu ar y foment, rwy’n ffyddiog fod y disgyblion wedi llunio neges bwysig sy’n berthnasol i Gymru 150 mlynedd yn ôl ac i Gymru heddiw.

top