O addoli i ymddeoliad

in Bardd with No Comments

Ddydd Mercher diwethaf mi fues i yn Ysgol Llanddarog, nid nepell o adre y tro hwn, gan bod Llanddarog yn nhopiau Cwm Gwendraeth, os nad yn ffin ogleddol i’r cwm.

Roedd achlysur arbennig i’w nodi ac felly aethom ati i greu rap fel dosbarth i ddiolch a dymuno ymddeoliad hapus i ficer y plwyf, yr Hybarch Alun Evans. Heddiw (17/07/14) bu’r plant yn perfformio’r rap i’r cyfryw ficer, gobeithio wir y caiff ei blesio. Yn y llun fe welwch brif bennill y rap yn fy llawysgrifen flêr!


Strict Standards: Only variables should be assigned by reference in /var/www/vhosts/barddplantcymru.co.uk/httpdocs/wp-content/themes/kiddo/comments.php on line 6
top