O Gyfylliog i Efrog Newydd

in Bardd with No Comments

Mae’r antura wedi dechrau go iawn bellach! Ar Fedi’r 16, diwrnod Owain Glyndŵr, ces i’r fraint o ymweld ag ysgolion am y tro cyntaf fel Bardd Plant. Wedi noson symbolaidd o aros gydag Eurig Salisbury a’i wraig Rhiannon (llongyfarchiadau ar eich priodas!) pasiwyd y ffagl glera Bardd Plant i fi gan Eurig a gafodd wynhau fy nghlywed yn codi’n blygeiniol i deithio o Aberystwyth i Gyffylliog, ger Rhuthun.

Glaniais mewn ardal hyfryd ar fore braf i gwrdd â disgyblion Cyffyliog a Chlocaenog a bwrw ati i chwarae gemau odli cyn mynd ati i arwain y plant wrth lunio penillion am eu hysgol. Gobeithio y bydd ffrwyth eu dychmyg yn cael ei ebostio ataf cyn hir er mwyn gallu eu rhannu gyda chi y ddiweddarach.

O Gyfylliog, aeth y clerwr boldew a moel hwn i Gorwen lle bu i sawl ysgol o’r ardal ddod ynghyd i ddathlu Diwrnod Owain Glyndŵr. Mewn amser rhyfeddol o gyflym lluniwyd cerddi rap yn darlunio bywyd yr arwr heddi, gan ei fod yn dal i fod ar hera yn aros am yr awr i’n harwain o’r newydd.

Rwy nawr yn sgwennu hyn o Efrog Newydd, lle bydda i ac Awdur Llawryfog Pobl Ifanc Cymru, Martin Daws yn cynrychioli Cymru wrth gydweithio gyda phlant a phobl ifanc Efrog Newydd ac abenigwyr ar drin barddoniaeth a rap mewn addysg. Heno wy’n mynd i gefnogi Martin a fydd yn perfformio mewn cystadleuaeth Farddoni Slam ar lwyfan caffi chwedlonol y Nuyorican sydd wedi gwedl rhai o feirdd mwya’r Afal Fawr yn perfformio ar y llwyfan sanctaidd hon.

Y gobaith yw codi pontydd rhwng America a Chymru a gweld beth allwn ni ddysgu wrth ein gilydd i godi cyffro am farddoniaeth wedi i ni ddod nôl i wlad y beirdd.

Cofion a What’s Up mawr i chi gyd am y tro!

Aneirin


Strict Standards: Only variables should be assigned by reference in /var/www/vhosts/barddplantcymru.co.uk/httpdocs/wp-content/themes/kiddo/comments.php on line 6
top