Rapio heb Deio i Dywyn

in Bardd with No Comments

Y prynhawn yma (9/03/15) mi fues i yn Ysgol Gynradd Penybryn, Tywyn. Ces groeso mawr gan flwyddyn 6, a hwythau yn llawn brwdfrydedd dros odli, cyflythrennu a chreu raps a cherddi yn Gymraeg. Ac mewn tref sydd wedi magu enw go SaesnigĀ i’w hun, ymhlith trefi’r arfordir, braf oedd gweld y gwaith caled y mae’r athrawon yn ei wneud wrth gyflwyno cyfoeth y Gymraeg i’r disgyblion, a braf oedd gweld hwythau yn mynd ati yn eu tro i ddangos mwy na dim ond ymwybyddiaeth o Dryweryn, ond i gofio am foddi Capel Celyn. Wedi’r ymweliad mi es am dro i Eglwys Sant Cadfan, lle mae’r enghraifft gynharaf o Gymraeg ‘sgrifenedig. Ar faen yn yr eglwys mae geiriau o’r wythfed ganrif. Profiad ysbrydol yn wir! A dyma feddwl wedyn, mae’r Gymraeg dal yma i gael ei rapio, barddoni a chanu, a’i hanwesu yn nwylo disgyblion blwyddyn 6 ysgol Penybryn; boed iddyn nhw ofalu amdani!

tywyn 1Plant Ysgol Penbryn, Tywyn

 

 

tywyn.jpegEglwys Sant Cadfan

 

top