Rysèt Ceridwen – Blwyddyn 2 Ysgol y Graig

in Beirdd Bach with No Comments

Rysèt Ceridwen

Baw trwyn, llygaid hen ddynion,
Mwd, mwstash drewllyd a hanner calon,
Smôcs dad, tafod neidar fawr,
Coed celyn, bysedd plant bach, clust cawr,
Traed ci, tail gwartheg, pen mochyn,
Pants llew, cynffon buwch a phigau gwenyn,
Blodau melyn, cwstard a da-da,
Cacen siocled, ci bach a hufen iâ,
Olwyn car, geiriadur a sbeidar,
Er mwyn troi Afagddu yn glyfar,
Berwch y cyfan am flwyddyn fron
Ac un diwrnod, jyst rhag ofn,
I greu yr hud mwyaf drewllyd,
Afiach, gwych a dychrynllyd.

Blwyddyn 2 Ysgol y Graig, Llangefni, 20 Ebrill 2012

top