Rysèt Ceridwen – Ysgol Maesincla ac Ysgol yr Hendre

in Beirdd Bach with No Comments

Rysèt Ceridwen – Ysgol Maesincla ac Ysgol yr Hendre

Rysèt Ceridwen

Trwnc eliffant, rhosyn Tuduriaid,
Tabaco drud, clustiau defaid,
Gwynedd mawr Tegid, bwced o dar,
Channel no.5, calon hen iâr,
Petrol car, baw trwyn mochyn,
Hufen iâ siocled, pig aderyn,
Cyffuriau, cwpan, siocled Divine,
Croen sych neidr a mil o chwain,
crafangau twrch daear drewllyd,
Baw ci, Sbongebob Squarepants swnllyd,
Coesau llyffant, trychfilod tila,
Gwaed buwch, ET, pobl Bala,

Berwch y cyfan am flwyddyn gron
Ac un diwrnod a’i droi efo ffon
I greu yr hud mwyaf pwerus
I droi Afagddu yn olygus!

Plant Ysgol Maesincla ac Ysgol yr Hendre, yng Nganolfan Noddfa, Caernarfon, 20 Ebrill 2012

top