Slam a Hanner

in Bardd with No Comments

Am 4 p’nawn ma (Dydd Mawrth, Eisteddfod Sir Gâr) cynhaliwyd y Slam Farddol gyntaf o’i math yn y Gymraeg. Gornest a lwyfanai ddoniau sgwennu a pherfformio disgyblion o flwyddyn 8 a 9 Ysgol y Strade, Maes y Gwendraeth a Bro Dinefwr.

Cafwyd cyfraniad clodwiw i’r ornest gan Eurig Salisbury, fy rhagflaenydd fel Bardd Plant Cymru, a ddarllennodd gerdd a luniwyd gan rai o ddisgyblion Bro Dinefwr nad allent fod yno, ac fe alwyd ar Eurig hefyd i fod yn reffarî i dorri’r ded-loc yn y rownd olaf.

A’r buddugwyr? Enillwyd yr ornest gan Faes y Gwendraeth, ond barddniaeth Gymraeg sydd ar ei hennill gan bod y criwiau i gyd wedi mwynhau llunio a pherfformio eu gwaith, a’r gwaith hwnnw yn waith o safon uchel. Diolch i Eurig, y beirdd, eu hathrawon a rhieni am ddod i gefnogi a gyda lwc, cawn fynd â’r beirdd hyn i ornestau Slam yn America. Gwyliwch y gofod!

top