Y Slam Farddol Gyntaf Erioed yn Gymraeg!

in Bardd with No Comments

Brynhawn Mawrth yn y Babell Lên am 4 o’r gloch bydd 3 o ysgolion uwchradd Sir Gâr yn mynd benben â’i gilydd mewn cystadleuaeth farddoni newydd. Slam Ysgolion Sir Gar fydd y gystadleuaeth a gan bod gyda ni yng Nghymru sawl cystadleuaeth farddoni – o’r gadair a’r goron, i dalwrn ac ymryson y beirdd, heb anghofio’r stomp, pam lai ychwanegu ffurf arall ar gystadlu barddol mewn i’r pair.

Cystadleuaeth sy’n deillio o’r Amerig yw’r Slam ac mae wedi hen ennill ei phlwy mewn gwledydd llai barddol na Chymru, megis lloegr(mae’n siwr gan nad oes gyda nhw dalwrn, cadair, coron na stomp!). Ond mae cynnal y Slam yma yn y Babell Lên yn ffordd o ddenu beirdd newydd i sgrifennu yn Gymraeg a chael profi’r wefr o berfformio eu gwaith hefyd. Bues i ac Eurig Salisbury, fy rhagflaenydd fel Bardd Plant Cymru yn cydweithio gydag Ysgolion Maes y Gwendraeth, Y Strade, Bro Dinefwr a Dyffryn Aman i greu timau Slam ac arwain y beirdd ifanc drwy’r broses o lunio cerddi cryf. Gallaf eich sicrhau chi y bydd gwledd o gerddi dwys a ffraeth i’w clywed o’r llwyfan felly da chi dewch i weld y Slam gyntaf erioed yn Gymraeg!


Strict Standards: Only variables should be assigned by reference in /var/www/vhosts/barddplantcymru.co.uk/httpdocs/wp-content/themes/kiddo/comments.php on line 6
top