Yn ôl i’r ysgol i ddysgu…

in Bardd with No Comments

Mae disybglion cynradd ac uwchradd cymru wedi dychwelyd o’u gwyliau haf hirfelyn tesog i’w hysgolion am flwyddyn arall. Braf fydd ymweld â nifer o ysgolion rhwng nawr a’r Nadolig, yn rhai cynradd ac uwchradd.
Ond bûm yn meddwl am faint o farddoni y daeth ein to iau ar ei draws yn ystod eu gwyliau. Os bu rhai i’r eisteddfod, yna mae siawns eu bod wedi clywed/gweld cryn dipyn o farddoni, neu o leiaf pobol yn trafod barddoniaeth. Er bod yn arwyddon fod yna fwy o barch a phwys i farddoni yng Nghymru nac sydd yng ngwledydd eraill Ewrop, faint mewn gwirionedd sydd i’w deimlo ym mywyd bob dydd ieuenctid cymru? Cwestiwn anodd i’w ateb heb fynd i gartref pawb i weld sawl englyn sydd ar y muriau neu ba mor aml y gafaela plant mewn cyfrol o farddoniaeth i blant neu i oedolion neu os ydyn nhw’n digwydd joio’r Talwrn ar y radio.

Ond os ydy plant ledled Cymru yn cadw llygaid a chlsutiau ac felly y meddwl yn agored, gellir dod ar draws sawl math o farddoniaeth gyffrous. Boed ar youtube, ar gofogolfnau yn lleol, mewn dywediadau sydd i’w clywed weithiau sy’n digwydd bod yn gwpledi cynghanedd, neu weithiau mewn graffiti.

Beth wedyn am y barddoni y bydd ein to iau yn dod ar ei draws yn ystod tymor yr ysgol. Mae’n wir fod cymaint o bynciau i’w hastudio a chymaint o ofynion ar athrawon a disgyblion erbyn hyn fel bod modd meddwl weithiau fod dim lle i farddoni, fod dim angen, neu bwysigrwydd. Ond fel y byddaf yn ei drafod cyn hir, drwy farddoniaeth, mae dyn yn cael gafael ar hanes, hunaniaeth, daearyddiaeth, tradoddiadau, athroniaeth ac eahngder meddwl i enwi ond ambell beth a ddaw yn sgil y profiad o ddarllen neu drio creu barddoniaeth. Felly, fel beirdd ac addysgwyr barddoniaeth mae tipyn o waith o’n blaenau, yn yr ysgol a thu hwnt i’r ysgol i amlygu barddoniaeth ac ennyn hoffter ohoni, gan mai dyna un ffordd o gael pobl i garu eu hiaith a’i seiniau.

top