Yn Ysgol Heol y Celyn

in Bardd with No Comments

Bu’r ymweliad ag Ysgol Heol y Celyn yn un arbennig i fi yn yr ystyr mai tafliad carreg o fynna y bues i i’r ysgol, sef Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydfelen. Bellach nid oes ond tai ar hen safle’r ysgol, a rhyfedd oedd gyrru’n sydyn drwy’r tai cyn mynd i’r ysgol. Dwi’n meddwl mai ger ty rhif 17 yr arferwn chwarae rygbi a ger y fflatiau yng nghefn y stad yr oedd fy ngwersi Cymraeg yn digwydd.

Mae Cymreictod serch hynny yn dal i sefyll ar ffurf ffrwd Gymraeg Ysgol Heol y Celyn a phleser oedd cael cwmni’r criw yn ystod y prynhawn i chwarae gyda geiriau. Aethom ati wedyn i gyfansoddi penillion a chwpledi a ddechreuent oll gyda’r llinell Yn Ysgol Heol y Celyn. Mae’r sbarc y gall llinell gychwynnol ei chynnig gan arwain at bob math o bosibiliadau a chyfeiriadau i weddill y pennill yn ddifyr tu hwnt. Diolch i’r disgyblion a’r athrawon am y croeso.


Strict Standards: Only variables should be assigned by reference in /var/www/vhosts/barddplantcymru.co.uk/httpdocs/wp-content/themes/kiddo/comments.php on line 6
top