Yr Hen Gapel Gwag – Carla Audrey Marie Block

in Beirdd Bach with No Comments

Dyma gerdd hyfryd sydd wedi ei hanfon gennym gan Carla Audrey Marie Block o Ysgol Aberbanc. Llongyfarchiadau, Carla!  A dal ati i ysgrifennu.

 

Yr Hen Gapel Gwag

Yr hen gapel gwag, yn wag o hyd.
Lawr yng nghapel Hebron bydd y cerrig beddau drud.
Lle tawel a di-sŵn,
Dim hyd yn oed cyfarth ci neu gŵn.
Ond ma’ na un hwm,
Cân yr afon lawr yn y cwm.

Wrth gerdded trwy’r giât fawr fetal,
Bydd lliwiau’r wawr ym mhob petal.
Ond cyn hynny, dal arno,
Mae bryn bach llwyd a’r afon odano.

Ond lan ar y bryn serth,
Gyferbyn â’r capel,
Mae Hebron Villa’n sefyll mewn nerth.
Gyda lliwiau glas a gwyn,
Mae golygfa o’r ffenest yn olygfa’r bryn.

Ydych chi wedi bod na? Na?
Lle prydferth yw’r lle.
Os byddai byth yn mynd ar goll,
Lawr yng nghapel Hebron fyddaf i,
Cael picnic yn yr haul a’i lun a dynnaf i.

Carla Audrey Marie Block, blwyddyn 6 Ysgol Aberbanc

top