Ysgol Bro Myrddin

in Beirdd Bach with No Comments

Ar 11 Ionawr, bu Eurig Salisbury yn ymweld â disgyblion o’i hen ysgol uwchradd, Ysgol Bro Myrddin. Dyma gerddi a ysgrifennodd rhai o’r plant:

Bwyd
Rwy’n hoff o wahanol fwydydd,
Byrger, pitsa a Doritos,
Fe hoffwn fod yn gogydd –
Ond rwy’n dal i gasau tomatos.

Annell Dyfri ac Elin Mai

Darllen
Darllen rhai o’r geiriau
Ac edrych ar y clawr,
Dyna sy’n dewis fy llyfrau,
Rydw i yn darllen nawr.

Ioan Smith

Rygbi
Rygbi yw’r gêm sy’n cynnwys pwyntiau,
Dau dîm o un deg pump sy’n chwarae,
Ambell waith mae na anafiadau,
Yna mae’n amser iddyn nhw adael y cae.

Osian a Llew

Anifeiliaid
Y pysgod yn nofio drwy’r moroedd glas,
I’r anifeiliaid gael bwyd mae popeth yn ras,
Yn brysur yn teithio drwy’r jwngwl yn syn,
Ond mae nifer yr anifeiliaid yn mynd yn brin.

Catrin Lewis a Cerys Thomas

Y Gwanwyn
Yn y gwanwyn mae blagur yn tyfu,
Yn y gwanwyn mae gwlân i’w nyddu,
Yn y gwanwyn mae’r haul yn gwenu,
Yn y gwanwyn caiff ŵyn eu geni.

Manon Dafydd Jones


Strict Standards: Only variables should be assigned by reference in /var/www/vhosts/barddplantcymru.co.uk/httpdocs/wp-content/themes/kiddo/comments.php on line 6
top