Ysgol Glan Morfa ac Ysgol Bro Allta

in Bardd with No Comments

Ysgol Glan Morfa ac Ysgol Bro Allta

Law yn llaw ag ymweliadau gydag ysgolion ar gyfer Gŵyl Llên Plant Caerdydd, fe ges i gyfle hefyd i ymweld â dwy ysgol arall. Y gyntaf oedd Ysgol Glan Morfa yn ardal Sblot yng Nghaerdydd. Cerddi doniol iawn oedd ar feddwl y plant y diwrnod hwnnw, a dyma un gerdd fach ddigri a luniodd y dosbarth gyda’i gilydd:

Roedd Derec y Rhufeiniwr
Yn byw ym Mharc y Rhath,
Roedd ganddo helmed ryfel fawr
A tharian, ci a chath,
Bob bore byddai’n gwisgo toga
I ymlacio wrth wneud yoga.

20130414-133318.jpg

Yr ail ysgol oedd Ysgol Bro Allta yn Ystrad Mynach, lle ces i gwrdd â dosbarth gwrandawgar o blant cyfeillgar iawn. Fe soniais i wrthyn nhw am Guto’r Glyn ac esbonio’r hen grefft o ddyfalu drwy ddarllen rhigymau o lyfr ffantasi The Hobbit gan J.R.R. Tolkien. Roedd y plant yn hen lawiau ar y grefft mewn dim o dro!

Dyma gipolwg ar furluniau gwych a welais i yn yr ysgol, sy’n dangos hanes ardal Ystrad Mynach:

20130414-114113.jpg

20130414-114534.jpg

20130414-114628.jpg

Mae plant yr ysgol wedi bod yn brysur iawn yn llunio cerddi ar bob math o destunau diddorol, a gelli di ddarllen eu gwaith drwy glicio ar y linc yma.

top