Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

in Beirdd Bach with No Comments

Cerddi Croesawu Eisteddfod yr Urdd Caerffili 2015
Blwyddyn 7 Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Croeso i Gwm Rhymni
Mae’r pyllau glo yn hen nawr mae angen rhywbeth newydd,
Dyma Eisteddfod hip-hip-hwre yn dod er gweithaf tywydd.
Pawb yn canu a dawnsio fry, dyma ble mae hwyl a sbri!

Dechrau ar y cerrig gwyn, ble bu’r ddraig yn canu gerllaw’r llyn.
Dyma Rhymni, yn darllen Idris Davis,
gan floeddio draw i Hafodrynys!

Lawr ym Mhontlotyn ble mae’r sglods yn flasus,
ond nid ydyn nhw’n iachus,
ond mae’r plant yn parhau i chwarae’n hapus!

Yn Margoed dyma ni dewch,
dewch yn gyflym dewch yn llu!
i bwll nofio Heolddu, y trac athletau a rygbi!

Ystrad Mynach yn gwylio ymarferion y dreigiau,
Ar ôl hynny draw i’r siop cacennau!
Ysbyty newydd Ystrad fawr, yn sefyll dros y dref fel cawr!

Cofio trychineb Senghennydd yn 1913,
Dewch i roi eich parch efo ni.
Cerflyn yn sefyll yng nghanol y blodau,
A dynion wnaeth farw yn cael eu clodau.

O’r diwedd dyma ni, yn y dref olaf Caerffili,
ar ysbryd werdd yn cefnogi’r Urdd!
Cerdd i Groesawu’r Eisteddfod i’r Cwm
Dewch i Gaerffili
Mae’n gwm bach lyfli
Cewch groeso i’r Eisteddfod
Hwyl a sbri di-waelod

Mae’r gastell yn gawr
Felly dewch yma nawr
Cartref ysbryd arglwyddes werdd
Mae yna gerdd

Enwogion o fri
Fel Adam Ramsey
Mae’n chwarae pel droed
Y gorau erioed.

 

Croeso i Gymru

Croeso i Gymru,
Ein gwlad bychan ni,
Mae gennym ni ddefaid,
A bwyd sy’n yumi.

Caws o Gaerffili,
Ein pentrefi ni
Pobl mor hapus
Yn cael hwyl a sbri.

Yr afon Rhymni
Yn llifo trwy’r cwm
Yn teithio’r pentrefi
Does dim byd yn llwm.

O ysgol i ysgol
O stryd i stryd
O bentref i bentref
O ni i chi

 

Rap Mr Urdd

Dwedwch caws yn eich hun lun,
Dwedwch caws i Gaerffili!
Tynnwch wyneb sili,
Gan ddweud caws i Gaerffili!

Mae’r Eisteddfod yn dod i Gaerffili.
Bron yn agos atom ni.
Fe fydd plant yn adrodd dawnsio a chanu.

Ar frig y cwm mae Rhymni,
Mae yna llawer o gwmni,
Cigydd, banc, tafarn a ysgol,
Ardal hyfryd a thrawiadol.

Yr eglwys eithaf fawr,
Sy’n sefyll yna fel cawr,
Cwm Gwyddon yw yr ysgol,
Pentref arbennig hanfodol.

Lle bach del yw Ystrad Mynach,
Yma’n wir laddwyd y mynach,
Ysbyty Ystrad Fawr,
Yn achub pobl pob un awr,

I Nelson daw’r Eisteddfod,
Ym mis Mai mae’n dyfod,
Mr Urdd ar y llwyfan,
Ac yna pawb yn rhoi clod.

Dewch draw i’r Coed-Duon,
Rhuthro i’r ysgol yn br ydlon,
Mae’r anfon chi i’r goleuni.
Ei enw yw Cwm Rhymni.

Caerffili yw’r un mawr,
Ynghanol e yw’r cawr.
Yn gorwedd ar y llawr,
I’r castell dewch yr awr!

top