Ysgol Gymraeg Bro Allta

in Beirdd Bach with No Comments

Cerddi Croesawu Eisteddfod yr Urdd Caerffili 2015
Ysgol Gymraeg Bro Allta

 

 

RAP ANHYGOEL STEDDFOD 2k15

Pennill 1:
Yo yo yo! Fi yw Mr Urdd,
Dwi’n hoff o wisgo coch, gwyn a gwyrdd,
dewch gyda mi am dro i weld y fro,
O gylch Caerffili.

Cytgan:
Hey Mr Urdd yn dy goch gwyn a gwyrdd,
Dewch gyda ni am daith ar hyd y ffyrdd.

Pennill 2:
Côr yn canu,
Yng Nghaerffili,
(La la la la la la laaaaaa)
Pawb yn twymo lan,
Yn barod am y gân

Cytgan:
Hey Mr Urdd yn dy goch gwyn a gwyrdd,
Dewch gyda ni am daith ar hyd y ffyrdd.

Pennill 3:
Afon Rhymni sydd yn llifo,
Lawr i’r bae ac oddi yno,
Draw i Benallta ble mae’r glo,
I Lancaiach Fawr, dewch o dan ein tô

Cytgan:
Hey Mr Urdd yn dy goch gwyn a gwyrdd,
Dewch gyda ni am daith ar hyd y ffyrdd.

Pennill 4:
Croesawu wnawn yn 2015,
Fe gewch chi groeso mawr!
Dewch i weld y sioe a’r wledd,
Disgyblion oll yn llawn brwdfrydedd!

Cytgan:
Hey Mr Urdd yn dy goch gwyn a gwyrdd,
Dewch gyda ni am daith ar hyd y ffyrdd.

Gan Grace, Lilian, Caitlin P, Bethan L, Lucy, Ruby a Caitlin McN

 

 

CERDD ACROSTIG ‘Steddfod yr Urdd


EISTEDDFOD YR URDD SYDD YN EIN CWM NI,
IAITH GYMRAEG YN EIN CALON NI,
SEREN WIB YN GWIBIO HEIBIO,
TRIWCH EIN DILYN DRWY DDAWNSIO A LLITHRO,
EISTEDDWCH I LAWR; MWYNHEWCH Y SIOE
DILYNWCH NI! DEWCH YMA’N GLOI!
DRAIG GOCH A’U DÂN YN LLOSGI’N BOETH
FFRINDIAU’N UNO MEWN MÔR O GYFOETH,
O DAN DÔ LLANCAIACH FAWR
DAW PLANT CYMRU I LENWI’R LLAWR.

YSGOLION CYMRAEG O BOB RHAN O’R WLAD,
RHYMNI, LLANCAIACH A CHAERFFILI YW’R ATYNIAD.

UNAWDWYR BRWD O GYMRU GYFAN,
RYGBI YW CALON EIN GWLAD BYCHAIN,
DEUAWD SWYNOL YN ATSAIN DRWY’R CWM
DAW WTHNOS Y ‘STEDDFOD I RANNU EI BWRLWM!

gan Cian, Jasper, Deri, Matty, Elysha, Rosie a Abbie

 

 

Rap Steddfod yr Urdd

Croeso i’r Steddfod
pob person yn y gofod,
Yng nghymoedd De Cymru,
I’n Sir braf yng Nghaerffili,

Yn Llancaiach Fawr,
Bydd ‘sbrydion yn codi o’r llawr,
Sdim angen bod yn ofnus,
Jest byddwch yn hyderus!

Bydd canu a llefaru,
A hefyd llwyth o gerddi,
Dawnsio di-ri,
Yn ein Plasdy ni!

Dacw Mr Urdd,
Yn ei goch, gwyn a gwyrdd,
Yma o hyd,
Yn danwsio ‘da’r byd!

Gan Ethan, William, Louis, Ellis, Nye a Luca.

 

top