Ysgol Gymraeg Morswyn ac Ysgol Kingsland

in Uncategorized with No Comments

Ysgol Gymraeg Morswyn ac Ysgol Kingsland

Roedd yn rhaid mynd i bendraw Cymru i ymweld a dwy ysgol yng Nghaergybi, Sir Fôn. Ond roedd o’n werth pob milltir!!

 

Dyma gerdd criw Morswyn oedd wedi bod yn gwneud gwaith ar Dywysogion Cymru.

 

EIN TYWYSOG

 

Gwallt gwyllt trwm

wedi tyfu’n hir.

Llygaid llwyd lloerig

yn disgleirio yn yr haul clir.

Y dyn dewr

yn drewi o falchder.

Cleddyf mawr miniog

yn barod am yr her.

Brwydyr fwdlyd,

waedlyd,

swnllyd.

Llywelyn fel llew yn rhuo,

milwyr y gelyn yn crïo.

Y mynyddoedd a’r moroedd yn bloeddio:

“Llywelyn ein tywysog ni!”

 

Arbennig!!

 

llun 3 eto

 

Cefais lawer o sbort gyda chriw Kingsland hefyd yn meddwl am ddelweddau a chymhariaethau difyr. Fy ffefrynau oedd:

 

“Mae fy nghwningen fel Candy Floss!”

 

“Yn llysnafeddog fel llyffant wedi molchi mewn mwd!”

 

Doniol iawn!

 

llun 4

top