Ysgol Llanfyllin

in Bardd with No Comments

Ar nos Iau 8 Hydref, ar ôl treulio diwrnod llawn hwyl yn Ysgol Llanrhaeadr-ym-Mochnant ac Ysgol Pennant, fe arhosais i mewn gwesty yn y Trallwng. Y bore wedyn, ar ôl digon o wyau wedi’u sgramblo i frecwast, fe deithiais i Ysgol Uwchradd Llanfyllin er mwyn helpu S4C yn ei hymgyrch Cymunedau.

Treuliais i’r bore yng nghwmni disgyblion bywiog blwyddyn 7 ac 8. Ar ôl penderfynu creu pennill i’r gêm rygbi fawr rhwng Cymru a’r Ariannin, fe luniodd y disgyblion gerdd fach i’n tîm cenedlaethol:

C’mon Cymru! Mae’r bêl gan Ariannin,
Yn gwibio’n gyflym fel aderyn,
Rhyng-gipiad! Ac mae’r dorf yn gweiddi’n groch,
Tensiwn … cyffro … cais i’r crysau coch!

Yn anffodus, fel mae pawb yn gwybod erbyn hyn, colli a wnaeth Cymru yn erbyn y Piwmas ddydd Sadwrn o 12 pwynt i 26. Roedd dwy linell gyntaf y pennill yn ddigon gwir, ond nid y ddwy linell olaf, gwaetha’r modd!

Fe gyfansoddodd y disgyblion gerdd fach arall hefyd, ar ôl casglu geiriau:

20121112-123002.jpg

Dyma’r pennill, sy wedi’i seilio ar gân gyfarwydd iawn:

Ar lan y môr mae tonnau gwynion,
Ar lan y môr mae cod a sglodion,
Ar lan y môr mae cregyn lliwgar
Yn pobi’n araf dan ddŵr llachar.

Yn y prynhawn fe ges i gwmni disgyblion y chweched dosbarth. Roedden nhw am ddysgu sut i gynganeddu. Hen, hen ffordd Gymraeg o farddoni yw cynganeddu, ond mae’r un mor effeithiol heddiw ag oedd hi ganrifoedd maith yn ôl. Rydw i wrth fy modd yn cynganeddu, ac fe ges i lawer o hwyl yn helpu wyth o ddisgyblion y chweched i greu llinellau hyfryd o gynghanedd. Dyma rai llinellau o’u gwaith nhw:

20121112-124119.jpg

20121112-124141.jpg

Diolch yn fawr i ddisgyblion ac athrawon Ysgol Uwchradd Llanfyllin, ac hefyd i Shân Croft o S4C am ei chwmni!

top